Pan O'wn i'n Rhodio

Pan o'wn i'n rhodio ac yn gwrando
Ar fab a'i gariad mewn un man,
Clywn y ferch yn d'wedyd wrtho,
Byth nis deuaf i dy ran;
Ni thal it' siarad dim am gariad,
Gwybod wyf nid wyt ond ffol,
Tra dwr yn cerdded gyda'r gwaered
Byth nis deuaf ar dy ol.

O f'anwylyd, fywiol fywyd,
Gwell na golud yw dy gael,
Am hynny'r seren sy'n dosturia
Gwel mor waeled wyf o dy flaen;
'Mlaen y deuaf, pall nis cym'raf,
Genny ti, 'run lawen lwys,
O rhag trueni na a+d 'mi boeni
Ond cynwys le i mi roddi'm mhwys.

<BGSOUND SRC="panown.mid">